Lia Haf Roberts

Lia Haf Roberts

Swyddog Dementia Actif Gwynedd

Profiad:-
Dechreuodd fy nhaith Dementia yn 2017 pan oedd yn ofynnol i mi wneud rhywfaint o brofiad gwaith fel rhan o fy ngradd Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor. Dyma pryd y cefais fy nghyflwyno i Dementia Actif Gwynedd a phan ddechreuodd y cyfan - ni ddaeth y profiad gwaith ‘wythnos’ i ben wrth imi ddechrau gwirfoddoli’n wythnosol gydag Dementia Actif Gwynedd. Ar ôl cwblhau fy ngradd, roeddwn wedyn yn ffodus i gael y cyfle i gwblhau gradd Meistr trwy Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, gan ymchwilio i effaith prosiect Munud i Symud Dementia Actif Gwynedd yng nghartrefi preswyl Cyngor Gwynedd. Yn dilyn y profiad hwn, roeddwn yn hynod o ffodus o gael swydd llawn amser gyda Dementia Actif Gwynedd – mae hi wedi bod/dal i fod yn siwrne wych. Mae fy angerdd a'm dealltwriaeth o Ddementia hefyd o ganlyniad i fy Nain- sydd yn byw’n dda gyda Dementia.

Cymwysterau:-
BSc Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd & Ymarfer
Meistri Gwyddoniaeth trwy Ymchwil
Hyfforddwr Gym Lefel 2
Arweinydd Boccia

Hyfforddiant penodol i ddementia:-
CPD 1st Steps in Dementia - Later Life Training
Hyrwyddwr Ffrindiau Dementia – Alzheimer’s Society
Hyfforddiant Rhith Daith Dementia –Training 2 Care
Hyfforddwr Ymarfer Corff yn y Gadair
Seated Fitness, Function and Balance instructor (Welsh only)

Dwyieithog:--
Cymraeg & Saesneg

E-bost:- liahafroberts@gwynedd.llyw.cymru

3 gair sy'n disgrifio pam fy mod i wrth fy modd yn gweithio i Dementia Actif Gwynedd:-

  • Rewarding
  • Positive
  • Fun