Mae’n gyfle am ddiwrnod allan. Rydym ni’n cwrdd â phobl hyfryd, mae cymdeithasu’n dda i bobl sydd gyda dementia. Mae’n rhoi ystyr iddyn nhw. Gallwch chi fod yn chi eich hun yno. Llawer o hwyl, gwybodaeth defnyddiol…yn sicr mae yna lawr mwy o resymau pam rydym ni’n licio dod i’r cyfarfodydd.
Mae'n ddiwrnod allan gwych, yn gyfle i gwrdd â hen ffrindiau a chwrdd â rhai newydd dros goffi. Llawer o wybodaeth ddefnyddiol i ofalwyr a y rhai sy'n byw gyda dementia. Heb anghofio ymarfer corff, llwyth o hwyl a chwerthin yn ogystal â bwyd da.
Rwyf wrth fy modd yn gweld pawb ac yn ceisio dysgu rhywbeth newydd ynglŷn â materion dementia.
I mi mae DEEP United yn ddigwyddiad pwysig yn fy nghalendr. Mae'n ddigwyddiad bob yn ail fis. Mae'r cyfarfod yn hamddenol ac yn gyfeillgar gan roi cyfle i bobl fynegi eu hunain a rhannu profiadau ... Mae DEEP yn dod â phobl ynghyd, p'un a ydyn nhw'n unigolion â phroblemau Dementia / Cof, Gweithwyr Proffesiynol neu'n wirfoddolwyr yn y maes. Rwyf yn cael sgwrs gydag unigolion yn y gymuned am ddigwyddiadau sydd ar gael i'w grymuso gyda gwybodaeth. Mae DEEP yn rhywbeth sy'n tyfu yma ym Meirionnydd a Dwyfor