Mae DEEP Dwyfor & Meirionnydd yn grŵp o fewn rhwydwaith cenedlaethol DEEP – mae DEEP yn sefyll am ‘Prosiect Grymuso Ymgysylltu â Dementia’ (Dementia Engagement Empowerment Project). Nod DEEP yw ymgysylltu a grymuso pobl sy'n byw gyda dementia i ddylanwadu ar agweddau, gwasanaethau a pholisïau sy'n effeithio ar eu bywydau.
Cliciwch yma i gymeryd olwg ar y wefan genedlaethol.
Mae DEEP Dwyfor a Meirionnydd yn dod â phobl o'r ardal hon sy'n byw gyda dementia, gofalwyr, teulu, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol dementia at ei gilydd bob 2 fis. Yn ystod y cyfarfod, mae pobl yn cael cyfle i rannu gwybodaeth, clywed sgyrsiau diddorol a chymdeithasu. Mae 25 o bobl ar gyfartaledd o ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd yn mynychu'r cyfarfodydd.
Mae rhai o'r sgyrsiau a'r gweithgareddau mewn cyfarfodydd blaenorol wedi cynnwys: - Amddiffyn rhag Sgamiau; Byw'n dda, gyrru'n dda 65+; Atal cwympiadau; Gweithdy barddoniaeth; Côr; cwisiau: Cinio Nadolig.