Mae Dementia Actif Gwynedd wedi dechrau dau ddosbarth newydd yn dilyn y pandemig; Heini Llŷn a Heini Bro Ffestiniog.
Nod y dosbarthiadau yw dod â phobl hŷn at ei gilydd yn y gymuned i helpu gwella eu hiechyd a lles.
Mae’r sesiynau’n agored i unrhyw unigolyn a hoffai’r cyfle i gymryd rhan mewn ymarfer corff ysgafn a mwynhau amser i gymdeithasu dros baned.
Mae croeso i bawb o bob gallu ac mae’r sesiynau’n gynhwysol i bobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia a chyflyrau iechyd eraill. *Does dim rhaid i chi gael dementia nag cyflwr iechyd er mwyn ymuno â’r sesiynau*.
Mae’r sesiynau’n costio £2 ac yn cynnwys paned. Beth am ymuno fel y cewch gymdeithasu ac eraill a mwynhau ychydig o ymarfer corff mewn awyrgylch diogel a chyfeillgar?
Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno â dosbarth, cysylltwch â ni:- dementiaactif@gwynedd.llyw.cymru, 07768 988095
Poster Heini Llŷn (pdf)
Poster Heini Bro Ffestiniog (pdf)
Heini Llŷn :- Bob Dydd Gwener, 11:00-12:30, Neuadd Cymunedol Sarn Meyllteyrn
Heini Bro Ffestiniog:- Bob Dydd Gwener, 11:00-12:30, Neuadd Cymunedol Bro Ffestiniog