Cefnogaeth Digidiol
Mae tîm Dementia Actif Gwynedd yn darparu cefnogaeth digidol drwy:-
- Adnoddau hawdd i’w darllen e.e. sut i ddefnyddio Zoom
- Cynnal sesiynau 1-i-1 ar Zoom i godi hyder yr unigolion. Pwrpas hyn yw er mwyn i bobl gael gweld beth ydyw a sut mae’n gweithio cyn symud ymlaen i’w ddefnyddio ar gyfer mynychu cyfarfodydd grŵp a dosbarthiadau Cadw’n Heini
- Cysylltiadau gyda Chymunedau Digidol Cymru a all gynnig cefnogaeth arbenigedd
- Cefnogi'r rhai sydd heb fynediad i’r wê ond a hoffai gael mynediad i’r rhyngrwyd.