Mae y grŵp yma ar gyfer teulu a ffrindiau sy'n gofalu am rywun gyda dementia. Cynhelir y grŵp rhithiol bob yn ail wythnos a'i brif ddiben yw cysylltu pobl sy'n mynd drwy amgylchiadau tebyg fel eu bod yn gallu rhannu profiadau ac atebion. Mae ymgynghorwr Dementia y Gymdeithas Alzheimer’s hefyd yn bresennol i rannu gwybodaeth a chyngor. Mae hefyd elfen o lesiant i'r sesiwn gydag amser ar gyfer Symudiadau Tai Chi ar gyfer Llesiant (TMW) i ymlacio, y gellir eu defnyddio fel strategaeth ymdopi mewn bywyd bob dydd.
Dyma rhai adborth:-
‘Roedd cyfarfod y bore yma yn un a fwynheais ac yn fuddiol iawn gyda chymaint o ddisgrifiadau o'r ymddygiad a elwir yn Ddementia. Roedd yn galonogol gallu dod o hyd i dir cyffredin ac uniaethu gydag eraill. Wnes i fwynhau'r Tai Chi hefyd. Dwi'n edrych ymlaen at y tro nesaf.’
‘Lle diogel’ ‘Dim syniad bod yna gymaint o wybodaeth’ ‘Da gallu siarad yn agored’ ‘dim ar ben fy hun’
Cytundeb Grŵp - Grŵp Lles a Chefnogaeth Gofalwyr Dementia
Grwp Llesiant a Chefnogaeth - bob yn ail Dydd Mawrth 11:00yb ar Zoom