Sesiynau Gwybodaeth Ffrindiau Dementia Ar-Lein

Mae Tîm Dementia Actif Gwynedd yn Hyrwyddwyr Ffrindiau Dementia, sy'n golygu y gallant ddarparu Sesiynau Gwybodaeth Ffrindiau Dementia. Yn y sesiynau gwybodaeth, mae'r staff yn annog eraill i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl sy'n byw gyda dementia yn eu cymuned.

Yn ystod y cyfnod clo, cyd-weithiodd y tîm gyda Byw’n Iach er mwyn cynnal sesiynau Ffrindiau Dementia i’r staff oedd ar ‘furlough’. Crewyd dros 100 o ffrindiau dementia newydd a y cam nesaf bydd cyd-weithio gyda y canolfannau Byw’n Iach er mwyn gweithio tuag at ddod yn ganolfannau dementia gyfeillgar.

Gall Dementia Actif Gwynedd gyflwyno Sesiynau Gwybodaeth Ffrindiau Dementia ar-lein. Mae'r sesiynau ar-lein oddeutu 30 munud ac yn rhad ac am ddim. Am fwy o wybodaeth am sut i ddod yn Ffrind Dementia neu i archebu sesiwn gydag un o'r tîm, cysylltwch â:

dementiaactif@gwynedd.llyw.cymru

07768 988095

Am fwy o wybodaeth am fenter ‘Ffrindiau Dementia’ y Gymdeithas Alzheimer’s, cliciwch yma Ffrindiau Dementia.

  • dementia-friends-bywn-iach-22.03.21
  • dementia-friends-bywn-iach-pwllheli-port-09.02.21
  • dementia-friends-bywn-iach-south-11.021.21
  • dementia-friends-llwybrau-llesiant-23.02.21
  • sesiwn-dementia-friends-bywn-iach-gogledd