Welsh only...
Mae podlediad newydd yn y gyfres Am Iechyd gan Goleg Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor ac a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn rhannu profiadau o fywyd tu hwnt i ddiagnosis o ddementia o safbwyntiau gwahanol.
Bydd y podlediad yn cael ei lansio’r swyddogol ar ddydd Mercher, 28 o Fehefin mewn digwyddiad codi ymwybyddiaeth o ddementia yn Galeri, Caernarfon.
“Y gobaith yw y bydd y podlediad yn agoriad llygad i bawb, ac yn annog rhagor o bobl i fod yn fwy agored am ddementia a sut i gael y gefnogaeth sydd mor bwysig,” meddai Dr. Catrin Hedd Jones,
sy’n ddarlithydd ar gwrs meistr mewn Dementia ym Mhrifysgol Bangor.
Aeth Glenda Roberts o ardal Pwllheli at y meddyg teulu yn 56 wedi i'w theulu sylweddoli fod rhywbeth o’i le o ran ei chof a nifer o bethau eraill, gan gynnwys y ffordd yr oedd hi’n siarad. Fel rhan o’r podlediad, mae’n dweud, “Pam mae rhywun yn cael y diagnosis o ddementia, mae’n goblyn o sioc, yn enwedig os ydach chi’n ifanc fel oeddwn i.
“Mae o’n lot mwy na anghofio lle da chi wedi rhoi eich pwrs. Mae’ch synhwyrau chi i gyd yn newid, a dydi rhywun ddim yn gwybod pam, os nad ydy rhywun yn deud wrtha chi fod hynny’n bosib o ddigwydd.
“Os fyswn i eisiau croesi’r lôn, fedra i ddim deud os ydi car yn dod yn agos ata i, pa mor gyflym mae o’n mynd, ydi o’n mynd i stopio i adael i mi groesi’r lôn. Mae’r holl ganolbwyntio’n gallu blino rhywun yn ofnadwy.”
Mae cael y gefnogaeth iawn gan gynnwys gofalwyr proffesiynol wedi bod yn hollbwysig i Glenda fedru mynd allan a mwynhau bywyd wrth fyw efo’r cyflwr, ac erbyn hyn y mae hi’n cydweithio ag ysgolion a’r Brifysgol ym Mangor i sôn am ei phrofiad fel person sy’n byw gyda dementia, ac yn helpu i ddatblygu adnoddau i roi gwybodaeth ddefnyddiol i unigolion wedi iddynt dderbyn deiagnosis.
Darllenwch mwy o'r Datganiad i'r Wasg fan yma....