Helo bawb,
I ddechrau, hoffwn ddiolch i bob un ohonoch am gymryd rhan yn y gynghrair y tymor yma, ac am chwarae Boccia o safon uchel iawn! Rydym wir wedi mwynhau croesawu oddeutu 24 o dimau i’r gynghrair bob mis.
Yn ail, hoffwn unwaith eto i ddiolch i ddisgyblion Ysgol y Gorlan am ymuno â ni, ac am fod yn blant gwych yn cymryd rhan ac yn helpu’r holl bobl yn y gynghrair. Dw i’n siwr y bysa pawb yn cytuno ei bod wedi bod yn bleser cael cwmni y disgyblion yn y gemau diweddar.
Fel y gwyddoch, heddiw oedd gemau diwethaf y tymor, ond rydym yn falch o ddweud y bydd y tymor newydd yn ail-ddechrau yn syth ym mis Ebrill – Ebrill 14/04/23. Gweler dyddiadau y tymor newydd wedi ei atodi yn yr ebost.
Nawr mae’n amser i longyfarch enillwyr y tymor ……… HEARTBEATS! Roedd brig y gynghrair yn hynod o agos, rhwng DFC Pwllheli, Headway Lions a Heartbeats, ond llwyddodd Heartbeats i fachu 14 o bwyntiau heddiw- oedd yn eu rhoi ar frig y gynghrair gyda 64 o bwyntiau! Llongyfarchiadau mawr.
Yn ail – DFC Pwllheli
Yn 3ydd- Muskateers.
Bydd y darian yn cael ei gyflwyno i’r tîm buddugol yn y gemau ym mis Ebrill.
Byddwn yna’n cyfwlyno y darian i enillwyr y tymor newydd ym mis Hydref 2023.
Diolch o galon i bawb am gymryd rhan. Rydym wir yn gobeithio bod pawb wedi mwynhau.
Ymlaen i’r tymor newydd!
Mi welwn ni chi Ebrill 14.
Diolch,
Tîm Dementia Actif Gwynedd.