Mae’r Grŵp Llesiant a Chefnogaeth ymlaen bob yn ail Ddydd Mawrth, ac yn cyfarfod am 11:00yb ar Zoom.
Poster Grŵp Llesiant a Chefnogaeth (pdf)
Mae’r grŵp yn agored i deulu a ffrindiau sydd yn gofalu am rywun sy’n byw gyda dementia. Mae’n ‘fan ddiogel’ ac yn gyfle i alw i mewn i weld beth sydd ar gael i gefnogi gofalwyr di-dâl, ac yn le i rannu profiadau, pryderon, a phenderfyniadau ag eraill sy’n deall ac yn mynd drwy yr un peth. Yma mae gofalwyr yn cefnogi eu gilydd.
Ar ddiwedd y sesiwn mae cyfle i ymlacio drwy gymryd rhan mewn symudiadau Tai Chi er Lles (TMW).
Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Emma Quaeck:- emmajaynequaeck@gwynedd.llyw.cymru | 07768 988095