Helo bawb,
I ddechrau, hoffwn ddiolch i bob un ohonoch am gymryd rhan yn y gynghrair y tymor yma, ac am chwarae Boccia o safon uchel iawn! Rydym wir wedi mwynhau croesawu oddeutu 22 o dimau i’r gynghrair bob mis.
Fel y gwyddoch, heddiw oedd gemau diwethaf y tymor, ond rydym yn falch o ddweud y bydd y tymor newydd yn ail-ddechrau yn syth ym mis Hydref – 04/10/24. Gweler dyddiadau y tymor newydd.
Nawr mae’n amser i longyfarch enillwyr y tymor ……… CLWB BOCCIA LLESIANT hefo 63 o bwyntiau! Llongyfarchiadau mawr.
Yn ail – Muskateers (39 pwynt)
Yn 3ydd - Rhyfelwyr Warws Werdd (34 pwynt).
Bydd y darian yn cael ei gyflwyno i’r tîm buddugol yn y gemau ym mis Hydref.
Byddwn yna’n cyfwlyno y darian i enillwyr y tymor newydd ym mis Ebrill 2025.
Diolch o galon i bawb am gymryd rhan. Rydym wir yn gobeithio bod pawb wedi mwynhau.
Ymlaen i’r tymor newydd!
Diolch,
Tîm Dementia Actif Gwynedd.