Colli Clyw a Dementia

'Nid yw’n gyfrinach, wrth i ni heneiddio, y gall ein gallu i gyflawni gweithgareddau beunyddiol leihau. Gall newid mewn clyw fod yn ffactor cyfrannol. Mae effaith colli clyw yn aml yn cael ei danbrisio. Pan fydd colled clyw yn digwydd, gall rhai pobl dynnu'n ôl o sgyrsiau bob dydd, gan arwain at y posibilrwydd o ynysu. Mae angen ysgogiad ar ein hymennydd er mwyn siarad ag eraill. Mae arbenigwyr yn dangos y gall fod cysylltiad rhwng colli clyw a dementia. Awgryma ymchwil, trwy reoli colled clyw gyda chymhorthion clyw, y gellir lleihau'r risg o ddementia.

Os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw golled clyw, mae’n bwysig eich bod chi’n cael prawf clyw a chlustiau cyn gynted â phosibl, neu os oes gennych chi gymhorthion clyw yn barod, sicrhewch eu bod nhw’n gweithio ac yn cael eu defnyddio’n rheolaidd.'

Mae CADR (y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia) wedi gweithio ar y cyd â Sefydliad Awen a GIG Cymru i greu animeiddiad sy’n hyrwyddo’r neges gyhoeddus hon. Mae'r animeiddiad hwn i'w weld yma:- www.youtube.com/watch