Yn ddiweddar bu i Siop Hefina, Pwllheli, ddathlu 40 o flynyddoedd mewn busnes. I ddathlu, penderfynodd Hefina gasglu arian tuag at Dementia Actif Gwynedd- drwy werthu raffl, derbyn rhoddion gan gwsmeriaid a chyfrannu incwm y siop ar ddiwrnod y penblwydd. Casglwyd swm anhygoel o £940.46 - rydym yn hynod o ddiolchgar ac yn gwerthfawrogi' fawr. Diolch yn fawr iawn i Hefina, a'i holl chwsmeriaid am fod mor garedig ac hael.