Yng ngoleuni’r sefyllfa COVID diweddara, a throsglwyddiad cyflym ymddangosiadol Omicron - rydym wedi penderfynu gohirio ailgychwyn ein dosbarthiadau wyneb yn wyneb tan yr wythnos sy’n dechrau 24ain Ionawr 2022. Byddwn yn adolygu’r sefyllfa dros yr wythnosau nesaf ac os bydd unrhyw beth yn newid nawn ni adael i chdi wybod.
Rydym yn sicr y bydd llawer ohonoch yn siomedig gyda’r penderfyniad hwn, ond mae diogelwch a lles ein holl aelodau o’r pwys mwyaf i ni.
Byddwn yn dal i gynnal dosbarthiadau ar-lein bob dydd Llun am 2:00pm a dydd Iau 11:00 am. Bydd y sesiynnau yma’n ail gychwyn Dydd Iau 6ed o Ionawr 2022. Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am ymuno â’r dosbarthiadau hyn, cysylltwch ag Emma 07768988095 ebost emmajaynequaeck@gwynedd.llyw.cymru
Yn y cyfamser, cadwch yn actif! Beth am ymuno â’n dosbarthiadau wedi’u recordio.
Mae’r Tîm Dementia Actif yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan!