Diwrnod agored yng Nghanolfan Dementia Gwynedd. Yn un o chwe Chanolfan Dementia ar draws Gogledd Cymru, mae’r ganolfan yn cynnig gwybodaeth, addysg, cyngor a chymorth hirdymor wedi’u teilwra i bobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr di-dâl, a’u teulu.
Mae croeso i unrhyw un alw draw ar y diwrnod i ddysgu am y mathau o gefnogaeth a gwybodaeth sydd ar gael:
• Dyddiad: Dydd Iau 5ed Hydref, 10yb tan 4.30yh.
• Cyfeiriad: Adeilad Ardudwy ar Safle’r Normal, Ffordd Caergybi, Bangor, LL57 2PZ
Am fwy o wybodaeth, ac i ffeindio eich Canolfan Dementia agosaf, cysylltwch â 01492 542212. I ddysgu mwy am y mathau o weithgareddau a chefnogaeth sydd ar gael yn y Canolfannau Dementia ymwelwch â'r dudalen Facebook