Diwrnod Dementia

Wythnos ers y Diwrnod Dementia yn Galeri Caernarfon 28/06/2023.

WAW, am ddiwrnod grêt yn codi ymwybyddiaeth am ddementia. Cawsom 3 sesiwn prysur:-

  • Sesiwn Wybodaeth Ffrindiau Dementia
  • Gweithdy 'Cymru Ni' gyda Dawns i Bawb... sesiwn hollol wych
  • Ffilm 'The World Turned Upside Down' - adnodd hynod o bwerus

Gobeithiwn eich bod wedi cael budd o'r diwrnod ac efallai wedi dysgu ychydig mwy am ddementia.

Hoffwn ddiolch i'r ffotograffydd Ian Smith am yr arddangosfa fendigedig o griw Dementia Actif Arfon, ac am dynnu lluniau o'r diwrnod .

Hoffwn ddiolch hefyd i Dr Catherine Charlwood a'r Athro Linda Clare o Brifysgol Exeter am ddod a'r ffilm atom ac am hwyluso'r sesiwn, Dawns i Bawb am y gweithdy ffantastig, ac i Galeri Caernarfon am ein cael ni yno!