Mae Dementia Actif Gwynedd yn falch o rannu ein bod gyda dosbarth wythnosol newydd wedi’i ychwanegu i’n rhaglen gweithgareddau!
Bydd Heini Pesda ymlaen pob ddydd Mercher am 2:00-3:30, yng Nghlwb Rygbi Pesda.
Bydd y sesiwn cyntaf ar y 15/03/23.
Bydd y dosbarth yn cynnwys awr o ymarfer corff (megis ymarferion ysgafn yn y gadair/cryfder a chydbwysedd/Boccia), ac yna bydd hanner awr olaf y sesiwn ar gyfer cael paned a chymdeithasu.
Croeso cynnes i oedolion hŷn o bob gallu. Mae’r dosbarth yn gynhwysol i rai hefo dementia, ynghyd â phobl sydd heb Dementia ond fysa’n buddio o gadw’n actif a chael cyfle i gymdeithasu.
Cysylltwch â Anwen Plumb am fwy o wybodaeth:-
0758 545 4583
anwenplumb@gwynedd.llyw.cymru