Llongyfarchiadau i aelod o staff, Rachael Roberts gafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Gofal Cymdeithasol Cymru 2022 o dan y categori “Gofalu yn y Gymraeg”. Enwebwyd Rachael am ei hymdrech wych i ddysgu Cymraeg a chael yr hyder i ddysgu ei dosbarthiadau Cadw’n Heini yn ddwyieithog. Mi wnaeth cyrraedd y rhestr fer ac er na ddaeth hi’n gyntaf- mae hi’n enillydd yn ein llygaid ni!