Ar ddydd Gwener y 9fed o Ragfyr, cynhaliwyd y gynghrair Boccia yng nghanolfan Byw’n Iach Glaslyn, ac yna fe cafwyd barti Nadolig i’w ddilyn.
Mynychodd dros 100 o bobl drwy Wynedd y digwyddiad arbennig hon, gyda tîm DFC Pwllheli yn cadw eu safle ar frig y gynghrair.
Hoffem ddiolch i Wynne (Elvis) am yr adloniant bendigedig, i Emilia’s Porthmadog am y bwffe gwych, i Liam a Frank am orffen y diwrnod gyda jigs Gwyddelig ac i’n cyd-weithwyr am ein helpu ar y diwrnod. Yn olaf, hoffem ddiolch i bawb am ddod draw ac am gymryd rrhan gyda gymaint o brwdfrydedd a hwyl!
Cliciwch yma i weld tabl y gynghrair yn dilyn gemau mis Rhagfyr.
Bydd y gynghrair Boccia yn parhau 13/01/22.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.