Am ddiwrnod bendigedig cafodd timau y gynghrair Boccia ar y 6ed o Ragfyr yn eu Parti Nadolig. Grêt oedd gweld 22 tîm yn Byw’n Iach Glaslyn a’u gweld yn cystadlu a chymryd rhan gyda chymaint o frwdfrydedd a hwyl!
Diolch enfawr i gaffi Seren am y bwffe Nadolig ac i blant Ysgol Eifion Wyn am ganu carolau hyfryd, diolch hefyd i Ysgol y Gorlan am ymuno â’r holl hwyl!
Mae Cynghrair Boccia Gwyned ymlaen yn Byw’n Iach Glaslyn dydd Gwener cyntaf pob mis, lle mae 24 o dimau ledled Wynedd (mor bell a Thywyn ac Aberdaron!) yn dod i gystadlu. Mae’r gynghrair yn cynnwys timau o ddosbarthiadau Dementia Actif Gwynedd, timau Llwybrau Llesiant, tîm strôc, tîm clefyd calon, tîm M.S, Headway (anafiadau ymennydd), Warws Werdd, Ysgol Hafod Lon, Ysgol y Gorlan, cartrefi preswyl a llawer mwy. Ceir pob math o alluoedd ac anableddau, ond yn ystod y gemau mae pawb yn gwbl gyfartal! Bore cwbl gynhwysol ac oed gyfeillgar.