Ar y cŷd â Eryri Cyd-Weithredol, mae Dementia Actif Gwynedd wedi trefnu taith cerdded ar hyd Pier Bangor ar ddydd Sul 21/05/23.
Croeso cynnes i bob gallu.
Bydd y daith yn filltir o hyd, ac yn dechrau am 11yb o Faes Parcio Beach Road (dros ffordd i Tafarn Nelson) i lawr am y pier.
Byddwn yn codi arian tuag at Ward Glaslyn, Ysbyty Gwynedd; er budd cleifion sy’n byw gyda Dementia.
Bydd posib cyfrannu ar y diwrnod, neu ar-lein drwy y dudalen Just Giving isod:-
Croudfunding Eryri Cydweithredol
Meddai Emma Quaeck, rheolwr Dementia Actif Gwynedd a Chydlynydd Dementia Gwynedd:-
Mae Dementia Actif Gwynedd yn falch o fod yn rhan o'r digwyddiad yma. Rydym yn gobeithio annog pobl o bob oed a gallu i ddod at ei gilydd i fwynhau taith gerdded hawdd ar hyd y pier. Bydd ein tîm wrth law i’ch cefnogi ac i wneud yn siŵr bod pawb yn cerdded ar gyflymder sy’n gyfleus iddyn nhw. Am gyfle gwych i gael y camau dyddiol holl bwysig hynny i mewn i helpu eich iechyd a lles - mae milltir yn cyfateb i tua 2,000 o gamau. Ac mae cerdded efo pobl eraill o hyd yn hwyl.
Rydym hefyd yn hapus y bydd unrhyw roddion ar y diwrnod yn mynd tuag at achos mor werthfawr - Ward Glaslyn i gleifion dementia yn Ysbyty Gwynedd.