Te Prynhawn- Grŵp Gofalwyr 26/07/22

Prynhawn bendigedig ym Mhant Du ddoe. Mi wnaeth y grwp gofalwyr gyfarfod wyneb yn wyneb yn hytrach nag ar Zoom fel yr arfer. Pawb wedi mwynhau sgwrsio, ac wrth gwrs, y te prynhawn bendigedig!

“Diolch yn fawr iawn am y Te Prynhawn ddoe. Roedd yn achlysur hapus ac mor bleserus i gwrdd â’n ffrindiau zoom wyneb yn wyneb. Aeth y cyfan mor gyflym ac yn effeithlon, ond wedi bywiogi ein hwythnos yn aruthrol. Roedd y te ei hun yn wych….yn bendant am archebu ymweliad yn ôl. Diolch eto i chi a’r tîm am yr holl drefnu tu ôl i’r llenni a’r cyfarfodydd zoom bob pythefnos.”-Gofalydd

 ”Diolch i chi am pnawn ddoe. Pleserus iawn oedd o. Cwmpeini neis a bwyd neis hefyd. Roedd y ddau ohonom wedi mwynhau yn fawr. Diolch unwaith eto”. – Gofalydd

Lluniau Te Prynhawn (pdf)

Mae’r grwp gofalwyr yn cyfarfod ar Zoom bob yn ail ddydd Mawrth am 11:00. Os hoffech ymuno, neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Emma :-
07768 988095
emmajaynequaeck@gwynedd.llyw.cymru

Poster grwp Llesiant a chefnogi gofalwyr a dyddiadau cyfarfodydd (pdf)