Hafan > Newyddion Diweddaraf a Diweddariadau > Wythnos Gofalwyr 10-14 Mehefin
Er mwyn dathlu Wythnos Gofalwyr, mae llu o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ledled Gwynedd ar gyfer yr wythnos.
Mae Dementia Actif Gwynedd yn falch o fod yn cynnal sesiwn ychwanegol yn ystod yr wythnos:
Cyfle i gael dysgu mwy am be mae Dementia Actif yn ei wneud drwy Wynedd, ac i drio gweithgareddau ymarfer corff megis ymarfer yn y gadair, cryfder a chydbwysedd, a gêm o boccia. Croeso mawr i bawb.
Mae sesiynau Dementia Actif Gwynedd yn agored i bobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr, ac hefyd unrhyw oedolyn hŷn y byddai’n cael budd o fynychu er mwyn cadw’n actif ac i gymdeithasu ag eraill.