Wythnos Gweithredu Dementia 2024

I ddechrau Wythnos Gweithredu Dementia 2024, trefnwyd diwrnod mabolgampau ‘Ewch am Aur’ mewn cydweithrediad â Prifysgol Bangor a Gwynedd Oed Gyfeillgar.
 
Ymunodd aelodau o sesiynau Dementia Actif Gwynedd dalgylch Bethesda/Bangor, trigolion cartref preswyl Plas Ogwen, grwpiau cymunedol, disgyblion Ysgol y Faenol, myfyrwyr Prifysgol Bangor, ac aelodau o grŵp Caban sy’n arbenigwyr dementia drwy brofiad i greu timau pob oed er mwyn cystadlu a chymdeithasu. Pontio’r cenedlaethau ar ei orau!  
 
Cymerodd y cystadleuwyr ran mewn 4 weithgaredd:-
- Boccia
- Cic o’r smotyn  
- Triathlon (sefyll o eistedd, codi sodlau, bicep curls)  
- Parasiwt pom pom
 
Llongyfarchiadau mawr i dîm Caban am gipio’r gwpan   
 
Dyma rhai sylwadau o’r diwrnod-

  •  "y diwrnod gorau dw i ‘di gael ers dwnim pa bryd… werth ei gael.. mae eisiau chwaneg ohona nhw plis” - trigolyn cartref preswyl
  •  "Gwnaeth cymryd rhan yn y digwyddiad hwyliog yma wneud i mi sylweddoli y gallaf fwynhau ymarfer corff hyd yn oed gyda methiant anadol a dementia, cydbwysedd a materion eraill. Roedd y plant a oedd mor barod i helpu yn frwdfrydig ac yn llawn hwyl, a mae’r gweithgareddau a wnaethom wedi rhoi chwaraeon yn ôl ar y rhestr o bethau y gallaf a byddaf yn ei wneud” - person sy’n byw gyda dementia
  •  “wedi mwynhau yn ofnadwy, dw i eisiau neud o eto” - trigolyn cartref preswyl
  •  “dw i wedi rili mwynhau heddiw. Oeddwn i just eisiau dweud diolch” - disgybl
  •  "dw i wedi mwynhau bod hefo pobl o wahanol oedran. Mae o wedi bod yn llawer o hwyl!” - disgybl
  •  "Roedd y mabolgampau pontio’r cenedlaethau yn hyfryd. Nes i gwrdd â chymaint o wahanol bobl a roedd yn braf gweld y plant yn cymysgu â’r genhedlaeth hŷn. Roedd y genhedlaeth hŷn mor gyfeillgar a siaradus. Roedd o’n wahanol, dw i erioed wedi profi dim byd tebyg o’r blaen. Roedd o’n llawer o hwyl. Dylai fod mwy o’r rhain yn cael eu hariannu gan y llywodraeth gan ei fod yn helpu iechyd corfforol a meddyliol ar gyfer pob cenhedlaeth. Byddai’n braf ei weld ar raddfa fwy” - myfyriwr cwrs iechyd a gofal Prifysgol Bangor.