Ail-gychwyn Dosbarthiadau Wyneb yn Wyneb Dementia Actif Gwynedd, Ionawr 2022

Yn dilyn Cyngor uwch, o ddydd Llun 31 Ionawr 2022 rydym yn falch o’ch hysbysu y byddwn yn gallu eich croesawu’n ôl i ddosbarthiadau Cadw’n Heini Dementia Actif Gwynedd.  (Dosbarth Bermo yn ail-gychwyn dydd Mercher 09/02/2022)

Er mwyn helpu i sicrhau eich bod chi a’ch cyd-aelodau yn y dosbarth yn teimlo’n ddiogel ac wedi’u hamddiffyn, mae’n hanfodol eich bod yn cytuno i gadw at y cyfarwyddiadau canlynol pan fyddwch yn mynychu’r dosbarth.

Be ‘da chi angen ei wneud:-

  1. Peidiwch â mynychu’r dosbarth os ydych yn teimlo’n sâl neu os oes gennych unrhyw symptomau COVID 19:-
  • Tymheredd Uchel
  • Peswch parhaus newydd
  • Colled neu newid i’ch synnwyr arogli neu flas
  1. “Flow before you Go” - Gofynnir i chi wneud Prawf Llif Unffordd (LFT) cyn cychwyn ar gyfer y dosbarth, hyd yn oed os nad oes gennych symptomau. Gallwch godi’r pecynnau prawf o’ch llyfrgell leol, fferyllfa neu gallwch archebu ar-lein https://www.gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests
  2. Mae staff Dementia Actif wedi’u brechu’n llawn ac yn gwneud LFT yn rheolaidd. Byddant yn ofalus iawn wrth ddilyn y rheoliadau hylendid a diogelwch priodol ar gyfer rhedeg y sesiwn. Bydd hyn yn cynnwys awyru digonol mewn lleoliadau a gallai olygu bod yn rhaid i ni agor drysau a ffenestri, felly dewch â dillad cynnes gyda chi.
  3. Bydd gofyn i chi gadw pellter cymdeithasol oddiwrth eich gilydd yn ystod y dosbarth a rhaid gwisgo gorchudd wyneb pan fyddwch chi’n dod i mewn i’r adeilad ac wrth ddefnyddio’r toiled (oni bai eich bod wedi’ch eithrio rhag eu gwisgo).

Diolch o galon am eich cyd-weithrediad.

Os ydych eisiau trafod y mater uchod ymhellach cysylltwch â mi:- Emma 07768988095  

Rydym ni’n edrych ymlaen i weld chi gyd!