Diwrnod ysbrydoledig i’n aelodau Atgofion Chwaraeon dydd Llun yn MaesNi Maesgeirchen, ble mae tlysau’r arwr Dave Davies gyda chartref parhaol newydd.
Cafon glywed am ei yrfa focsio ers iddo gychwyn yn 13 oed a dangosodd rai symudiadau bocio i ni, a trafod ei gêm bocsio orau a mwya’ heriol nes iddo ymddeol yn 33 oed.
Cawsom y pleser i wylio un o’i frwydrau fwyaf yng Ngemau Gymanwlad lle cyflawnodd fedal arian drawiadol!
Diolch yn fawr am y croeso cynnes yn MaesNi (Maesgeirchen) a Nigel Pickavance Dwyrain Bangor City & County Councillor am drefnu agor yr ystafell focsio i ni.
Mae sesiynau Clwb Atgofion Chwaraeon yn cael ei gynnal pob dydd Llun yn llyfrgell Bangor. Os hoffwch ymuno â ni i hel atgofion am chwaraeon, gêm o Boccia a phaned ar ei ddiwedd cysyllwtch a mi ar 07585 454583