Dathliad

Mae tîm Dementia Actif Gwynedd yn falch o gyflwyno ein hail ffilm o berfformiad dawns. Enw’r ddawns yw “Dathliad” ac fe’i perfformir i gerddoriaeth ‘Summertime’ – Frances Faye.

Unwaith eto, fe grëwyd y ffilm mewn cydweithrediad â Dawns i Bawb ac mae’r ffilm yn serennu pobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr, disgyblion Ysgol Glan y Môr, cyd-aelodau a staff. Mae’r fideo yn ddathliad o’r ffaith ein bod yn cael dod at ein gilydd eto yn dilyn y pan demig, ac ar ben hynny, y gallwn ddal i symud o hyd!

Hoffai’r tîm ddiolch o galon i Keren Meadows am yr holl waith caled o greu’r ffilm – o’r dechrau i’r diwedd.

Mwynhewch a rhannwch os gwelwch yn dda!

https://youtu.be/nSgjDLv619g

Dawns i Bawb / UK DEEP Network / Cyngor Gwynedd Council / Ysgol Glanymor / Alzheimer’s Society Cymru / Pontio’r Cenedlaethau, Cyngor Gwynedd / Heno S4C / BBC Cymru Fyw / BBC Radio Cymru