Fel rhan o ddathliad y rhwydwaith DEEP (Dementia Engagement and Empowerment Project) yn 10 oed eleni, fe gynhaliwyd digwyddiad arbennig iawn i ddathlu ym Mhlas Tan y Bwlch. Ar y cyd gyda grwpiau DEEP Caban (Prifysgol Bangor) a Like Minded (Yr Wyddgrug), mi drefnodd Dementia Actif ddiwrnod i ddathlu llwyddiant grwpiau DEEP Gogledd Cymru. Roedd y digwyddiad yn gyfle i aelodau’r grŵp ddod at ei gilydd i ddathlu eu cyflawniadau ac arddangos gwerth dysgu, rhannu, a chefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.
Cawsom y fraint o groesawu pobl sydd wedi eu heffeithio â dementia o’r Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr a led led Cymru. Mynychodd oddeutu 80 o bobl gyda rhai gweithwyr proffesiynol yn bresennol hefyd. Roedd y rhaglen yn cynnwys cyflwyniadau gan y 3 grŵp DEEP yng Ngogledd Cymru, panel trafodaeth ar werth cefnogaeth cyfoedion gan bobl sy’n byw hefo dementia, ac yna amrywiaeth o weithdai yn cynnwys celf, dawnsio, barddoniaeth a thaith cerdded ymwybyddiaeth ofalgar. Cliciwch yma am y rhaglen lawn.
4 gair i gyfleu’r diwrnod gan cynrychiolwyr a tîm Dementia Actif Gwynedd oedd:-
Dyfyniad o’r diwrnod:- “Mae beth sydd wedi cael ei gyflawni dros y 10 mlynedd diwethaf yn rhoi gobaith am beth all eu cyflawni yn y 10 mlynedd nesaf”
Gan berson sy’n byw gyda dementia “Dw i’n cael amser gorau fy mywyd oherwydd y cefnogaeth dwi yn cael gan cyfoedion sy’n mynd trwy’r un peth a finnau ” (yn cyfeirio at amser ei bywyd yn dilyn y deiagnosis).
Gafodd nifer oedd yn aros dros nos ym Mhlas Tan-Y-Bwlch adloniant gwych gan Gai Toms gyda cherddoriaeth Cymraeg, storiau difyr a chyfle i ymuno a’r canu! Ffordd arbennig iawn i orffen diwrnod anhygoel. Dyma gip olwg:- https://youtu.be/gwBXzUBUeQA
Dywedodd Emma Quaeck, rheolwr Dementia Actif Gwynedd “Roedd yn anrhydedd cael cynnal y digwyddiad arbennig iawn hwn ac yn bleser gweld cymaint o bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia yn dod at ei gilydd mewn ffordd mor hamddenol, onest a chadarnhaol. Fel tîm dysgon ni gymaint drwy wrando ar yr hyn oedd gan bobl i’w ddweud, roedd yn wirioneddol ysbrydoledig. Roedd pobl wrth eu bodd â’r lleoliad a gwnaethom orau i sicrhau ei fod yn Gyfeillgar i Ddementia ac yn mwynhau profi ychydig o ddiwylliant Cymreig.”
Adnoddau o’r diwrnod:-
Croeso gan Liz Saville-Roberts AS/MP https://youtu.be/htfNbruojA4
Fideo Perfformiad Dawns newydd Dementia Actif a Dawns i Bawb o’r enw ‘Dathliad’. Cafodd y fideo ei lansio yn ystod y digwyddiad.https://youtu.be/nSgjDLv619g
Am fwy o wybodaeth am DEEP a’r digwyddiadau arbennig eraill cafodd ei gynnal i ddathlu penblwydd 10 oed drwy’r Deyrnas Unedig :- https://anniversary.dementiavoices.org.uk/