Hoffai tîm Dementia Actif ddiolch o galon i Lowri a Siwan am drefnu bore Paned a Chacen bendigedig yn neuadd bentref Llanystumdwy ar y 18fed o Fai. Trefnwyd y digwyddiad cymunedol er cof am eu nain ryfeddol Jean Humphreys a chodwyd swm syfrdanol o £1,825 ar gyfer Dementia Actif! Roedd Jean yn un o’n haelodau gwreiddiol pan wnaethom sefydlu’r rhaglen gyntaf – ac roedd yn bleser gweithio gyda hi, roedd hi wrth ei bodd yn cael dawnsio! DIOLCH YN FAWR IAWN genod 💜💛