Rydym yn hynod o gyffroes i fod yn dechrau dosbarthiadau newydd yn Wynedd.
Bydd y dosbarthiadau yn cynnwys ymarferion ysgafn i wella stamina, cryfder a chydbwysedd, boccia, ac y cyfle i gymdeithasu dros baned.
Bala - Ymunwch â’n sesiwn ‘dewch i drio’ dydd Mercher yma (16/08/23) yn Byw’n Iach Penllyn.
Bydd y sesiwn ymlaen 1:30-3:00yh
Bydd y dosbarth ym Mala yna’n parhau’n wythnosol pob dydd Mercher o 06/09/23 ymlaen, 1:30-3:00yh.
Penygroes- bydd y dosbarth yn cychwyn yn Neuadd Goffa Penygroes ar y 11/09/23. Bydd y dosbarth ymlaen pob dydd Llun am 11:00-12:30yh.
Croeso cynnes i oedolion hŷn o bob gallu.