Gweithgareddau newydd cyffrous i wella lles oedolion hŷn

Mae Dementia Actif Gwynedd yn lansio sesiynau newydd gyda’r nod o ddod â phobl hŷn at ei gilydd yn y gymuned i helpu gwella iechyd a lles. Mae’r sesiynau’n agored i unrhyw un a hoffai’r cyfle i gymryd rhan mewn ymarfer corff ysgafn a mwynhau amser i gymdeithasu dros baned. Mae croeso i bawb o bob gallu ac mae’r sesiynau’n yn gynhwysol i bobl sydd wedi’u heffeithio â dementia a chyflyrau iechyd eraill. Mae’r sesiynau’n costio £2 ac yn cynnwys paned.

Dyma beth sydd ar gael:-
Heini Llŷn - Dosbarth Cadw’n Heini bob dydd Gwener, 11:00-12:30 yn y Ganolfan Gymunedol yn Sarn Mellteyrn. (pdf) Mae’r dosbarth hwn eisoes wedi cychwyn.
Heini Bro Ffestiniog - Dosbarth Cadw’n Heini bob dydd Gwener 11:00-12:30 yn y Ganolfan Gymunedol ym Mlaenau Ffestiniog. (jpg) Dechrau dydd Gwener 4ydd Mawrth 2022.
Mae’r ddau ddosbarth hyn yn cynnwys ymarfer corff ysgafn i helpu i wella cryfder, cydbwysedd a stamina. Gellir gwneud yr ymarferion wrth eistedd neu sefyll a bydd yr hyfforddwr yn teilwra’r ymarferion i weddu i’ch gallu yn dibynnu ar symudedd, anafiadau neu gyflyrau iechyd eraill.

Cynhelir Clwb Atgofion Chwaraeon Nefyn bob yn ail ddydd Iau, 2:00-3:30 yn nhafarn Yr Heliwr. (pdf) Dyma Glwb sy’n dod â dilynwyr chwaraeon at ei gilydd am y cyfle i siarad a hel atgofion am bob math o chwaraeon. Bydd y sesiwn yn cynnwys trafodaethau ar bynciau chwaraeon penodol; cwisiau, cystadlaethau ‘Spot the Ball’ ac ambell gêm Boccia neu Gyrlio Oes Newydd (‘New Age Curling’). Bydd y Clwb yn cael ei lansio ar ddydd Iau 10fed Mawrth 2:00pm gydag enwogion lleol yn ymuno yn yr hwyl ac yn darparu ychydig o adloniant!

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Emma Quaeck- 07768988095  / emmajaynequaeck@gwynedd.llyw.cymru