Yn dilyn llwyddiant Gwibdaith Gwybodaeth Dementia Gwynedd yn gynharach yn y flwyddyn, mae'r rownd nesaf o ddigwyddiadau bellach wedi eu trefnu gan dargedu ardaloedd eraill o'r sir. Nod y Wibdaith Gwybodaeth yw rhoi cyfle anffurfiol i bobl sy'n:
i ddod draw i gyfarfod a siarad â gweithwyr proffesiynol all ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth sy'n cyfro pob maes o'r daith dementia. Bydd croeso cynnes i bobl alw heibio neu aros am y cyfnod a mwynhau'r cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau, paned a sgwrs.
Canolfan Bro Tegid, Stryd Fawr, Y Bala, Gwynedd, LL23 7AE
Dydd Mawrth 26 Tachwedd, 1.00 - 4.00yh
Cynnwys – 1:30yh Ymwybyddiaeth Ofalgar (Canolfan Henblas)
Clwb Cymunedol Llanberis, Stryd y Farchnad, LLANBERIS LL55 4EY
Dydd Iau 28 Tachwedd, 1.00 - 4.00yh
Cynnwys – 2:00yh Adweitheg y dwylo
Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR
Dydd Gwener 29 Tachwedd, 11.00yb - 2.00yh
Cynnwys – 1:00yh Sesiwn Ymlacio
(Bydd cinio ar gael yn y digwyddiad yma – ffoniwch 01248 370797 i archebu a sôn am unrhyw ofynion dietegol)
Gwybodaeth wedi'i chynnwys - Llwybr Cymorth Cof, awgrymiadau defnyddiol ar gyfer delio â symptomau dementia; budd-daliadau a chymorth ariannol; ystyriaethau cyfreithiol; asesiadau gofalwyr; grantiau lles i ofalwyr; gweithgareddau a grwpiau cymunedol; eiriolaeth dementia; seibiant a gwyliau byr; gwybodaeth gofal cartref a phreswyl.
Hefyd fel rhan o’r Gwibdaith yn:-
Diwrnod Agored Canolfan Dementia Gwynedd
Neuadd Ardudwy, Safle Coleg Normal, Ffordd Caergybi Bangor LL57 2PZ
Dydd Mercher 27 Tachwedd 11:00yb -2:00pm
Fel rhan o’r diwrnod Agored, mi fydd dangosiad o’r ffilm newydd sef ‘Byw’n Well hefo Dementia’ gyda sesiwn holi ar y diwedd.
Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â Emma 07768 988095
Plîs rhannwch – diolch.