‘Mae dosbarth newydd wedi cychwyn yn Sarn Mellteyrn ar gyfer oedolion hŷn sydd eisiau cadw’n heini a chymdeithasu.
Pwrpas Heini Llŷn yw dod â phobl hŷn sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ynghyd ar gyfer gweithgareddau corfforol a chymdeithasol. Mae’r sesiynau ar agor i unrhyw un a hoffai wella cryfder, cydbwysedd a stamina, neu efallai yr hoffent geisio symud i gerddoriaeth neu chwaraeon dan do syml. Agwedd bwysig yw’r cyfle i gymdeithasu, cael hwyl a chefnogi ei gilydd ac mae pob sesiwn yn gorffen gyda phaned, bisged a’r cyfle am sgwrs!
Mae y dosbarth ymlaen yn Neuadd Bentref Sarn bob dydd Gwener rhwng 11:00-12:30, am gost o £2.00 sy’n cynnwys y paned.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Emma Quaeck 07768988095 / emmajaynequaeck@gwynedd.llyw.cymru
Poster (pdf)