I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Boccia ar 27/09/21, trefnodd tîm Dementia Actif Gwynedd Gystadleuaeth ‘Mae Boccia yn ôl!’ Oherwydd eu bod yn methu dod â thimau at ei gilydd i gystadlu oherwydd cyfyngiadau COVID, fe wnaethant greu cystadleuaeth darged lle cymerodd chwaraewyr ran yn eu lleoliad neu eu cartref preswyl ac anfon eu sgorau i mewn. Roedd 8 tîm yn cynrychioli cartrefi preswyl Cyngor Gwynedd, gyda chyfanswm o 27 chwaraewr yn cymryd y rhan, a 24 tîm gyda chyfanswm o 65 chwaraewr yn ymuno o’r grwpiau cymunedol.
Enillwyr y gystadleuaeth cartrefi preswyl oedd Tîm Garn o Plas Hafan ac enillwyr yn gystadleuaeth cymunedol oedd Tîm Pwllheli Rollers o grŵp Dementia Actif, Dwyfor.
Lluniau o pawb yn mwynhau:-
Lluniau (pdf)
Mae’r fideo fer hon yn dangos y mwynhad a gafodd pawb:-
https://youtu.be/NBZIsUbQxIU