Parti Gardd 05/09/2023

Gwahoddir holl aelodau Dementia Actif Gwynedd, a phwy bynnag sydd ffansi, i ddod draw i’r parti gardd ar y 5ed o Fedi.

Cynhelir y digwyddiad yn Byw’n Iach Dwyfor (canolfan hamdden) ym Mhwllheli o 11:00yb-2:00yp. Mae hwn yn gyfle gwych i weld y gwaith anhygoel sydd wedi’i gyflawni yn yr ardd gymunedol, cymryd rhan mewn gweithgareddau ysgafn a chwrdd â hen ffrindiau a ffrindiau newydd.

Dewch â phecyn bwyd gyda chi - darperir paned a chacen!

A fyddech cystal â rhoi gwybod i ni os ydych yn bwriadau dod os gwelwch yn dda.

Diolch yn fawr.

07768 988095
dementiaactif@gwynedd.llyw.cymru