Mae tîm Dementia Actif Gwynedd wedi cael yr anrhydedd yn ddiweddar i gyfrannu tuag at wefan newydd sbon sydd wedi’i lansio ar gyfer a gan bobl gyda dementia a gofalwyr.
Mae’r wefan Pecyn Byw Gyda Dementia, sydd wedi’i gynhyrchu gan Brifysgol Exeter ac Innovations in Dementia, yn llawn syniadau, awgrymiadau a ffilmiau i roi gobaith i bobl i fyw gyda dementia.
Mae Dementia Actif Gwynedd wedi cyfrannu tuag at yr adran ‘Aros yn Actif’, gyda’r cydlynydd Emma Quaeck yn gwneud cyflwyniad ac yn cymryd rhan gydag aelodau’r tîm Clare Harris & Lia Roberts mewn ffilm sy’n siarad am y gwaith y maen nhw’n ei wneud.
Mae pum thema i gyfrannu at fyw bywyd da gyda dementia yn ôl canfyddiadau ymchwil a’r hyn y mae pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia yn ei ddweud, sef:
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Pecyn Byw gyda Dementia:
Living With Dementia Toolkit (saesneg yn unig)
Living With Dementia Toolkit - Dementia Actif Gwynedd (saesneg yn unig)