A dyna ni ddiwedd ar y Rhith Daith Dementia Gwynedd.... am rwan!
Mi fuodd y bws dementia ar daith ledled Wynedd yn cynnwys Caernarfon, Dolgellau, Bangor, Criccieth, Aberdyfi a Blaenau Ffestiniog. 156 o bobl (yn cynnwys gofalwyr di-dâl, teuluoedd, staff gofal ayyb) wedi cael profiad o sut beth gall byw hefo dementia fod.
Hoffai Dementia Actif Gwynedd ddiolch i’r holl fynychwyr, y lleoliadau am y croeso (Byw'n Iach Arfon, Byw'n Iach GlanWnion, Canolfan Dementia Bangor & CADR, Hwb Dementia Criccieth, Neuadd Dyfi a Y Dref Werdd), i‘r hyfforddwyr am eu arbenigedd, eu proffesiynoldeb ac empathi, ac i gwmni Training2Care sydd yn gyfrifol am yr hyfforddiant. Mae'r cwmni yn codi ymwybyddiaeth am ddementia ledled Prydain.
Dyma ambell i ddyfyniad o’r wythnos -
- "profiad bythgofiadwy. Dylai bob aelod o staff wneud yr hyfforddiant yma" - Gweithir cymdeithasol
- "I would like to say big thank you for allowing me to attend the virtual dementia tour today. I didn’t really know what to expect and was a little bit apprehensive, but I have come away feeling empowered to help my mother on her dementia journey. You were all so kind, helpful and informative and your smiley faces were a joy to see and gave me encouragement" - aelod o deulu
- "An extremely stimulating experience that certainly gave everyone food for thought. It seemed that everyone got something different from the hands on experience and the observation. The post discussion was enlightening with many picking up nougats of knowledge and information that they could use in their respective roles. For me, I'm now much more conscious and aware of everything I do around my husband. Everyone in a caring role should experience this" - aelod o deulu