9 Ysgol / 90 o ddisgyblion
12 Tîm Dementia Actif Gwynedd
150 o chwaraewyr o bob oed a rhan o Wynedd.
Diwrnod gwych – llawer o hwyl, sgwrsio gyda ffrindiau newydd a chreu atgofion tra’n codi ymwybyddiaeth am ddementia.
Llongyfarchiadau enfawr i'r enillwyr - Ysgol Hafod Lon . Llawn haeddiannol a wedi chwarae yn wych yn y gêm terfynol yn erbyn tîm Heini Llŷn.
Diolch o galon i’r holl wirfoddolwyr a wnaeth sicrhau bod y digwyddiad yn lwyddiant, ac i Seren Ffestiniog am baratoi chinio bendigedig i bawb. Diolch yn fawr hefyd i Owain Llŷr, Gweledigaeth, am ffilmio’r holl ddigwyddiad.
Fel rhan o’r prosiect, aeth Dementia Actif Gwynedd i bob un o’r ysgolion i wneud sesiynau hyfforddiant Ffrindiau Dementia i godi ymwybyddiaeth am ddementia, ac i gynnal sesiwn blasu Boccia fel eu bod yn gallu ymarfer cyn y diwrnod mawr. Rydym yn fawr obeithio y bydd boccia yn parhau yn yr ysgolion gyda’u setiau boccia newydd.
Rydym yn gobeithio gwneud mwy o ddigwyddiadau fel hyn mewn mwy o ardaloedd yn Wynedd fel y gallwn gynnwys ysgolion eraill.
Edrych ymlaen yn barod!
Gwybodaeth am y Twrnament Boccia Pontio’r Cenedlaethau ar Facebook