Tystebau

Mae boreau dydd Mawrth yn llawer llai unig ers i mi ymuno â’r grŵp

Diolch yn fawr i bawb sy’n rhan o gyfarfodydd cefnogaeth Dementia Actif yr wyf wedi bod yn rhan ohonynt dros y chwe mis diwethaf. Mae nhw wedi rhoi cwmnïaeth a chefnogaeth foesol i mi wrth deimlo ychydig ar goll wrth ofalu am fy ngŵr sydd â Dementia Cymysg

Rwyf wedi gwneud ffrindiau trwy’r cyfarfodydd, wedi gwella fy rhinweddau fel gofalwr, gyda chyngor ymarferol wedi’i dderbyn, nid yn unig gan ofalwyr eraill, ond y siaradwyr gwadd anhygoel sydd wedi ein harwain i gyd gyda’u cyngor gwybodus ar bob mater ymarferol sy’n berthnasol i fod yn ofalwr.

Mae'r grŵp yn gwneud i mi deimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi mewn cymaint o ffyrdd. Gallaf rannu sut dw i’n teimlo gyda phobl sy’n deall. Dw i wedi cael gwybodaeth mor wych a dw i bellach yn y broses o drefnu rhywfaint o ofal seibiant ar gyfer fy mhartner oherwydd hyn. A chefais gyfle i roi adborth am y daflen wybodaeth Asesiad Gofalwyr newydd - gwnaeth hyn i mi deimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi fel unigolyn nid yn unig fel gofalwr arall sydd yn gorweithio!

Felt up lifted being with like-minded companions. Look forward to our next session.