Manon Japheth

Manon Japheth

Swyddog Cymunedol Dementia Actif Gwynedd

Cychwynnais i weithio fel Ysgrifenyddes gyda Chyngor Gwynedd yn ôl yn 2020 ac ers hynny rydw i wedi bod yn lwcus iawn o ymgymryd â llawer o rolau gwahanol. Ers mis Mai 2024 rydw i yn falch iawn o fod yn rhan o’r tîm Dementia Actif Gwynedd fel Swyddog Cymunedol.

Rydw i wedi mynychu sawl hyfforddiant ac yn dal i ddysgu. Rydw i wrth fy modd yn cefnogi’r bobol a’i teuluoedd/gofalwyr drwy weithgareddau corfforol, chwaraeon a sgwrsio dros paned a bisged. Mae’r profiad yma o gefnogi pobol efo dementia yn hollol newydd i mi, ond dwi’n mwynhau pob eiliad ac yn datblygu fy nealltwriaeth o hyd.

Hyfforddiant:-
Chair Based Exercise Instructor
Seated Fitness, Function and Balance Instructor
Experiencing Dementia
Ffrindiau Dementia

3 gair sy'n disgrifio pam fy mod i wrth fy modd yn gweithio i Dementia Actif Gwynedd:-

  • Boddhaus
  • Gwobrwyol
  • Pleserus

Iaith:-
Dwyieithog - Cymraeg a Saesneg