Amdanom

Dosbarthiadau gweithgaredd corfforol sydd wedi'u lleoli drwy Wynedd yn y gymuned. Mae y dosbarthiadau ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia, eu teulu, eu ffrindiau a’u gofalwyr. Pwrpas y dosbarthiadau yw rhoi cyfle i bobl fod yn actif, cael hwyl a bod yn rhan o grŵp cymunedol lle mae pawb yn deall ac yn cefnogi eu gilydd.

Er bod y dosbarthiadau ar gyfer pobl sydd yn cael eu effeithio gan ddementia, maent hefyd yn agored i bob oedolyn hŷn i helpu leihau y risg o ddementia. Mae pob dosbarth yn cael ei oruchwylio gan hyfforddwyr cymwys, gwybodus ac empathetig sy’n sicrhau bod y dosbarthiadau yn hyblyg ar gyfer yr unigolion; ‘person-centred’. Mae y dosbarthiadau'n cynnwys ymarferion i wella cryfder, cydbwysedd a chydlynu i helpu gyda gweithgareddau bob dydd. Mae chwaraeon fel Tenis Bwrdd a Boccia yn boblogaidd, ynghyd â cherddoriaeth, canu a dawnsio. Gall pob weithgaredd helpu tuag at leihau pryder ac iselder, a gallant gynyddu hyder, lles ac ansawdd bywyd y pobl sy’n mynychu. Mae pob dosbarth yn gorffen gyda'r cyfle i gael paned o de / coffi a sgwrs - yma gall bobl rannu profiadau a chefnogi ei gilydd i oresgyn heriau.