Edrych ymlaen i fynd, mae o wedi achub fy mywyd
Fedra i ddawnsio eto!
Mae y dosbarthiadau wedi cael argraff fawr arna i, a rwyf yn hynod ddiolchgar am y sylw unigol a chadarnhaol rydym wedi eu dderbyn. Mae y dosbarth yn rhywle y gall y ddau ohonom fynd i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’n gilydd, lle nad ydym yn cael ein barnu a mae pobl yn deallt y heirau dw i’n ei wynebu fel ofalwr. Am y rhesymau yma, mae o wedi bod yn linell bywyd i mi fel ofalwr.
Dw i’n teimlo’n fwy heini ac yn gryfach, a dw i’n ceisio gwneud y gorau y gallaf i fyw’n dda gyda Parkinson’s a Dementia- mae hyn i gyd o ganlyniad mynychu dosbarthiadau DementiaGo. Mae'r dosbarth yn anhygoel, mae pobl yn deall yr hyn rydw i'n mynd drwyddo, mae'r hyfforddwyr yn empathetig ac yn gefnogol ac rwy'n teimlo y gallaf fod yn fi fy hun yn llwyr
Mae DementiaGo yn rhywle i fynd sy’n rhydd o straen ac yn gyfeillgar, gyda phobl sy’n fy annog ac yn fy helpu i barhau gyda rhywfaint o ymarfer corff. Mae hyn yn fy annog i barhau gyda fy mywyd fel y mae nawr ... a pheidio â rhoi’r gorau iddi er gwaethaf popeth sy’n cael ei daflu ataf!
Yn y dosbarth, rydym ni wir yn mwynhau cael y cyfle i wneud rhywbeth gyda'n gilydd ac mae amlochredd a hyblygrwydd yr holl weithgareddau rydym ni'n eu gwneud yn cadw y dosbarthiadau yn ddiddorol
Mae fy ngwraig yn dweud fy mod wedi dod yn fwy rhyngweithiol a siaradus ers i mi ddechrau dod i'r dosbarthiadau. Os na fyswn yn mynychu’r dosbarthiadau, ni fyswn yn gwneud dim ond eistedd a gwylio’r teledu, a ni fyddai hynny’n gwneud unrhyw les i mi