Adborth o’r Diwrnod Mabolgampau:
Dywedodd ei fod yn teimlo fel Olympiad! Roedd wedi bod o fudd mawr iddo, roedd wedi dysgu y gallai wneud rhywbeth o hyd, roedd yn dal i allu yn 97 oed
Mae nhw'n cymysgu gyda eraill, yn eu hatal rhag deimlo'n unig ... pawb yn cymysgu gyda'i gilydd ac yn dod at eu gilydd.
Mae’n dangos iddyn nhw bod modd iddyn nhw wneud pethau fel hyn hefyd.
Hyder … dim ond rŵan rydw i’n dechrau dod o hyd iddo fo wedi’r holl flynyddoedd [o weithio yn y cartref], wedi i mi fod ar y cyrsiau [gweithdai DementiaGo].
Roedd y fedal yn golygu’r byd iddo fo, ac mi fyddai o’n dangos o i bawb; iddo fo, un o’r pethau gorau iddo ei wneud erioed oedd cael y fedal ac ennill y darian i’w chadw, ac fe wnaeth o ei chario hi’r holl ffordd ar y bws, a’i dangos i bawb. Mi fyddai o’n gwisgo’r fedal pryd bynnag y byddai rhywbeth yn ddigwydd … cinio Nadolig neu unrhyw beth, roedd yn rhaid i’r fedal fynd am ei wddf. Pan fu farw Dad, roedd o am i’r fedal fynd hefo fo yn yr arch.
Roedd llawer ohonynt yn medru gwneud mwy o lawer na’r hyn yr o’n i’n ei ddisgwyl – ro’n i wedi fy syfrdanu. Roedden nhw’n wych!