Amdanom

Mae y prosiect Munud i Symud wedi’i leoli mewn 11 o gartrefi preswyl Cyngor Gwynedd. Pwrpas y prosiect yw cefnogi staff i hyrwyddo gweithgaredd corfforol i rymuso pobl yn y cartref i symud mwy. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i wella lles ac ansawdd bywyd y preswylwyr.

Mae Tîm Actif Dementia wedi gweithio'n agos gyda staff y cartrefi preswyl i greu rhaglen waith, sy'n cynnwys gweithdai syniadau. Mae'r gweithdai hyn yn darparu cyfleoedd i staff o wahanol gartrefi ddod at ei gilydd, dysgu a rhannu syniadau:-

Mae Gweithdy Munud i Symud a gynhelir mewn cydweithrediad â ymgynghorydd ‘Later Life Training’ Bob Laventure, yn canolbwyntio ar ddiffinio gweithgaredd corfforol a symud, y manteision i breswylwyr a staff, syniadau ar gyfer gweithredu; yr hyn sy'n helpu ac yn rhwystro gweithgaredd corffol, a chanllawiau risg a galluogi.

Mae Gweithdy ‘Pam wnawn ni fynd allan i’r ardd’, a gyflwynwyd gan Mark Rendel o ‘Step Change Designs Ltd’ yn canolbwyntio ar ddefnyddio’r gofod y tu allan a’r awyr iach fel ffordd i gael pobl i symud.

Gweithdy Ymarfer Corff yn y Gadair- a ddarperir gan y ‘Health Care Training Company Ltd’ i ddarparu syniadau at gyfer ymarfer corff sylfaenol yn y gadair.

Darparodd Dementia Actif Gwynedd fag llawn gwahanol offer i’w ddefnyddio i wneud amrywiaeth o weithgareddau corffordol a gemau i bob cartref.

Un o’r digwyddiad mwyaf llwyddiannus a drefnir gan Dîm Dementia Actif Gwynedd ac y Staff Gofal yw’r Diwrnod Mabolgampau blynyddol ‘Ewch am Aur’, lle mae preswylwyr, perthnasau a staff yn cystadlu yn erbyn y cartrefi preswyl eraill. Mae'r digwyddiad hyn yn cymryd rhan yn 3 ardal Gwynedd - Dwyfor, Meirionnydd ac Arfon. Cynhelir y cystadlaethau yn y Ganolfannau Byw’n Iach lleol. I'r rhai sy'n methu â mynychu mae yna heriau mewnol o fewn y cartrefi hefyd fel bod pawb yn cael teimlo'n rhan o'r digwyddiad. Mae'r enillwyr yn derbyn tarian a chyflwynir medal i'r holl gyfranogwyr.

I ddarllen DementiaGo & Gwynedd Council Residential Homes‘Go For Gold’Sports Week 23-27 September 2019 cliciwch yma.