Mae Tîm Dementia Actif Gwynedd yn angerddol am godi ymwybyddiaeth, lleihau stigma a chwalu rhwystrau sydd ynghylch â Dementia. Ein nod yw helpu i'w gwneud hi'n haws siarad am Dementia a fydd yn ei dro yn cefnogi pobl fyw mor dda â sy’n bosib gyda’r afiechyd.
Mae staff Dementia Actif Gwynedd yn Hyrwyddwyr Ffrindiau Dementia, sy'n fenter a arweinir gan y Gymdeithas Alzheimer’s. Maent yn cynnal sesiynau gwybodaeth Ffrindiau Dementia yn y gymuned ac i amrywiaeth o sefydliadau sydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o sut i gefnogi pobl sy'n byw gyda Dementia. Gellir cynnig y sesiynau hyn ar-lein hefyd.
Ffyrdd eraill y mae Tîm Dementia Actif Gwynedd yn codi ymwybyddiaeth:-