Cymunedau Dementia Gyfeillgar

Mae Cymunedau Dementia Gyfeillgar yn fenter arall gan y Gymdeithas Alzheimer’s. Dinas, tref neu bentref yw Cymuned Dementia Gyfeillgar lle mae pobl sydd â dementia yn cael eu deall, eu parchu a’u cefnogi. Mae’r gwaith yma yn bwysig wrth helpu pobl i fyw’n dda gyda Demetnia ac aros yn rhan o’u cymuned. Gall hyn gynnwys cefnogi pobl i barhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau y maent yn eu mwynhau, gan fod y pobl o’u cwmpas yn dangos cefnogaeth a dealltwriaeth o Dementia

Ar hyn o bryd mae gan Gwynedd ddwy dref sydd wedi ennill cydnabyddiaeth o fod yn ‘Gweithio tuag at ddod yn Dementia Gyfeillgar’. Mae gan Porthmadog grŵp llywio sydd wedi creu ffurflen addewid lle mae busnesau a sefydliadau lleol yn ymrwymo i weithio tuag at gamau i gyflawni'r addewidion hynny. Maent hefyd yn cynnal sesiynau Ffrindiau Dementia ar gyfer unigolion a grwpiau yn y gymuned.

dementiaactif@gwynedd.llyw.cymru

01766 510932 / 07768 988095

Facebook