Mae Ffrindiau Dementia yn fenter gany Gymdeithas Alzheimer’s i drawsnewid sut mae'r genedl yn meddwl, yn gweithredu ac yn siarad am ddementia. Yn syml, mae dod yn Ffrind Dementia yn golygu darganfod mwy am sut mae dementia yn effeithio ar berson - ac yna, wedi'i arfogi â'r ddealltwriaeth hon, gwneud pethau bychain bob dydd sydd yn helpu pobl sydd gyda dementia i fyw yn dda. Er enghraifft, bod yn amyneddgar mewn ciw siop, neu treulio amser gyda rhywun rydych chi'n ei adnabod sy'n byw gyda dementia. Mae pob gweithred yn cyfrif, boed yn weithred bychan neu yn fawr.
Mae tîm Dementia Actif Gwynedd i gyd yn Hyrwyddwyr Ffrindiau Dementia. Gallant gyflwyno sesiynau gwybodaeth i unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau. Mae'r sesiynau'n cymryd tua 40-60 munud ac yn rhad ac am ddim. Hyd yma mae'r tîm wedi creu bron i 1000 o Ffrindiau Dementia newydd sy'n cyflwyno'r sesiynau i grwpiau fel - staff Meddygfeydd, Deintyddion, Ysgolion, Salonau gwallt, Timau Safonau Masnach, Ymatebwyr Cyntaf, Grwpiau Eglwys; staff a chwsmeriaid Canolfannau hamdden a'r cyhoedd.
Gall tîm Dementia Actif Gwynedd hefyd ddarparu sesiynau gwybodaeth 30 munud ar-lein.
Am fwy o wybodaeth am sut i ddod yn Ffrind Dementia neu i archebu sesiwn wybodaeth, cysylltwch â:-
dementiaactif@gwynedd.llyw.cymru